Am y Confensiwn
Daeth cyfnod yr ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar yr 21ain o Awst 2009 a chyflwynwyd yr adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y 18fed o Dachwedd 2009. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd i'r drafodaeth. Mae gwaith Confensiwn Cymru Gyfan nawr ar ben, ond bydd y wefan yma'n parhau fel cofnod o'n gwaith.
Diben sylfaenol y Confensiwn yw:
- Meithrin dealltwriaeth o'r ffordd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gweithio ar hyn o bryd;
- Gofyn i chi am eich barn o ran rhoi mwy o bwerau deddfu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
- Cyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ddiwedd y drafodaeth.
Mae rhestr fwy manwl o nodau'r Confensiwn ar gael ar ein tudalen 'Amcanion'.
Pwy yw'r confensiwn?
Mae'r tudalennau hyn yn sôn wrthych am y Pwyllgor Gweithredol, Cadeirydd y Pwyllgor hwnnw a'r bobl sy'n gweithio i'r confensiwn o ddydd i ddydd.
Mae pawb sy'n gysylltiedig â'r Confensiwn yn awyddus i glywed eich cyfraniad. Darllenwch y ffeithiau a'r dadleuon yn Mynnwch Wybod. Ar ôl hynny, gallwch gyfrannu at y drafodaeth mewn amryw o ffyrdd yn Mynnwch Gyfrannu.
Dolenni perthnasol
Yr opsiynau yw naill ai chadw’r pwerau presennol neu symud tuag at bwerau deddfu llawn, ond bydd angen refferendwm ar gyfer hynny.
Yn y rhan hon o'r safle, rydym wedi dwyn ynghyd rai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin sy'n cael eu holi a'r atebion iddynt.
